Mae partneriaethau a ffurfiwyd o dan Addewid Caerdydd yn creu adnoddau gwyddoniaeth a thechnoleg yn gymorth dysgu yng Nghaerdydd a rhanbarth De Cymru. Caiff adnoddau eu datblygu trwy brojectau arloesol sy’n cynnwys tîm e-ddysgu Cyngor Caerdydd, athrawon o ysgolion Caerdydd, busnesau lleol a Phrifysgolion Caerdydd ac Abertawe. Am ragor o wybodaeth ac i gael mynediad at yr adnoddau cliciwch ar unrhyw broject isod.
|
Mae’r holl adnoddau wedi eu halinio â’r cwricwlwm gwyddoniaeth a’r cwricwlwm gwyddoniaeth cyfrifiadurol presennol, a gyda’r MPD (Maes Profiad Dysgu) yn y Cwricwlwm Cymru newydd, yn ogystal â chysylltu â’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol a’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol. Un o brif amcanion yr holl adnoddau yw dangos perthynas glir rhwng elfennau’r cwricwlwm a phrofiadau’r byd go iawn a chyfleoedd gwaith.
|
Drwy asio arbenigedd adrannau prifysgol o safon byd a busnesau blaengar sy’n arwain eu sector gyda phrofiad ystafell ddosbarth rhai o’n hathrawon mwyaf sgilgar ac effeithiol, rydym yn cynhyrchu ystod o adnoddau addysgu gwyddoniaeth a thechnoleg wedi eu cysylltu â chyfleoedd profiad ychwanegol a fydd yn gallu rhoi hwb sylweddol i addysgu a dysgu yng Nghaerdydd a rhanbarth De Cymru.
|