E-Ddysgu Ysgolion Caerdydd
Yn adran e-ddysgu Ysgolion Caerdydd, mae pob math o wybodaeth ymgynghorol, hyfforddiant a chyngor i roi cymorth i ysgolion i ddefnyddio TGCh mewn sesiynau addysgu a dysgu. Nod ein dull strategol yw sicrhau bod gan ysgolion y seilwaith sydd ei angen i gynnal dysgu digidol, caffael a rhentu dyfeisiau defnyddiwr olaf, ac yn anad dim, manteisio ar hyfforddiant a chymorth i ddefnyddio TGCh ym mhob rhan o'r cwricwlwm ac mewn gwersi Cyfrifiadureg a Thechnoleg, Gwybodaeth a Chyfathrebu.